WYNA A BRIDIO
•
Mae’r Ddafad Fynydd Cymreig Pedigri yn darbodus, llaethog a chaled. Yn famau
rhagorol sydd a dawn i amddiffyn eu hepil, ac yn gofyn ychydig i ddim cymorth yn ystod
wyna.
•
Mae’r Defaid Mynydd Cymreig Pedigri yn tueddu i fod yn fwy toreithiog na bridiau
Cymreig eraill a bydd yn cyflawni canran sganio o 200% yn rheolaidd er bod unrhyw
beth rhwng 160% - 180% yn fwy cyffredin.
•
Bydd y rhan fwyaf o’r diadelloedd yn ŵyna o ddechrau mis Mawrth hyd at ddiwedd mis
Ebrill er bod rhai diadelloedd yn ŵyna’n gynharach i gyd-fynd â’u system ffermio.
•
Mae'r ŵyn yn cael eu geni gyda gorchudd da o wlân i'w galluogi i oroesi mewn tywydd
garw.
•
Mae'r ŵyn yn tueddu i fod yn fywiog ar eu geni ac yn benderfynol o godi a sugno o fewn
ychydig funudau cyntaf eu bywyd, ac yn ffynnu ar dim ond llaeth y fam.
•
Mae’r mamogiaid yn llaethog iawn a phan gaiff ei chroesi â hwrdd masnachol gall fagu
efeilliaid i ddwbl ei phwysau yn hawdd.
•
Gall yr wyn gyrraedd pwysau o 35-40kg erbyn ddiwedd yr Haf ar dim on porfa.
•
Mae Defaid Mynydd Cymreig Pedigri yn cynhyrchu cig o ansawdd uchel sy'n blasu'n
rhagorol sydd fel arfer yn cael ei adael i dyfu a gorffen yn naturiol.
•
Os yn croes fridio mae’r ŵyn menyw yn ddelfrydol i’w cadw’n ôl fel defaid magu i’w
defnyddio mewn system fasnachol gan eu bod yn etifeddu’r nodweddion mamol.