DISGRIFIAD O’R BRID
Disgrifiad o’r brid
Disgrifiad o Hwrdd Mynydd Cymreig Pedigri. (Mamogiaid yn wahanol, gan gofio eu
nodweddion benywaidd)
•
Pen - Gwrywaidd, o hyd cymedrol gyda gên gref, siâp lletem, yn meinhau tuag at y trwyn,
wyneb dysgledig ddim yn ddymunol. Talcen a thrwyn llydan. Cyrn yn weddol gryf a chrwn,
heb fod yn rhy agos at y gwreiddiau. Y bochau, a'r talcen i fod yn rhydd o wlan.
•
Lliw y Pen - Gwyn neu ychydig o liw brown golau, lliw brown tywyll ddim yn ddymunol.
Llwyd i wahardd yn gyfan. Trwyn du yn well, ond trwyn brith i beidio â gwahardd.
•
Llygaid - Amlwg a bywiog.
•
Clustiau - Bach a thenau, wedi'w gosod yn lletraws.
•
Gwddf – Cryf a thrwchus.
•
Llwnc - Byr ac wedi'i ddiffinio'n dda.
•
Brisged - Eang ac amlwg.
•
Ysgwydd – Crwn ac yn wastad gyda’r cefn.
•
Asen - Dwfn a digon o fwa ynddi i sicrhau digon o gylchfesur i’r galon.
•
Cefn - Yn gryf, byr, yn cario yn dda o’r ysgwydd i’r lwyn, yn wastad ac yn llawn.
•
Hip - Trwchus ac i dynnu ar i lawr yn dda.
•
Cynffon - Hyd canolig, cryf a llawn.
•
Coesau - Hyd cymedrol gydag asgwrn o gryfder canolig. Hociau i fod yn rhydd o wlan.
Lliw, gwyn neu i fod ychydig yn lliw brown golau, lliw brown tywyll ddim yn ddymunol,
llwyd i wahardd yn gyfan.
•
Tor - Yn syth, y cwd i fod yn rhydd o wlân.
•
Croen - Pinc a meddal
•
Gwlan - Hollol Gwyn, hyd canolig, grymus i’w afael, cyfran fach o gywarch i beidio â
diarddel. Gwlân cyrliog, cemp coch a smotio du yn y cnu ddim yn ddymunol.
•
Ymddangosiad - Cydnerth, solat, yn cerdded yn ysgafn a bywiog ac yn dal ei ben I fyny yn
dda.
NODIR: Trwy benderfyniad y Pwyllgor Gwaith (24 Mawrth 1961) atgoffir y beirniaid o’r
diffygion canlynol sy’n anghymhwyso arddangosion:
•
Wynebau llwyd a/neu goesau llwyd.
•
Dallineb parhaol.
•
Ceg Mochyn
•
Traed neu goesau nad ydynt yn gadarn.
•
Namau gwenerol
Trwy benderfyniad Cyfarfod Blynyddol y Gymdeithas (2017)
•
Mamogiaid corniog i gael eu diarddel os yw'r corn wedi torri drwy'r croen