Y BRID
Rhinweddau’r Brid
•
Mae manteision a rhinweddau’r Ddafad Fynydd Gymreig Pedigri yn parhau i fod yr un
mor berthnasol ac mor bwysig i amaethyddiaeth yn yr unfed ganrif ar hugain ag y bu
ers cenedlaethau.
•
Mae’n ddafad aml-bwrpas a all ffitio mewn i unrhyw system ddefaid.
•
Gall y Ddafad Mynydd Cymreig Pedigri fyw oddi ar amrywiaeth o gynefinoedd o'ch
manau ucheldir i diroedd lawr gwlad.
•
Mae’r Ddafad Fynydd Cymreig Pedigri yn darbodus, llaethog a chaled. Yn famau
rhagorol sydd a dawn i amddiffyn eu hepil, ac yn gofyn ychydig i ddim cymorth yn ystod
wyna.
•
Mae'r ŵyn yn cael eu geni gyda gorchudd da o wlân i'w galluogi i oroesi mewn tywydd
garw.
•
Mae'r ŵyn yn tueddu i fod yn fywiog ar ee geni ac yn benderfynol o godi a sugno o fewn
ychydig funudau cyntaf eu bywyd, ac yn ffynnu ar dim ond llaeth y fam.
•
Gan mai brid o maint canolig ydi’r Defaid Mynydd Cymreig Pedigri mae’nt yn hawdd i’w
trin, gyda’r mamogiaid fel arfer yn pwyso rhwng 45kgs – 55kgs ar hyrddod yn taro’r
raddfa ar 80kgs – 90kgs.